Santiago de Compostela


Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen. 

Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd  i gyfarch y pererinion.

Profiad unigryw a bythgofiadwy.

 

Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr  Cymysg Coral Lestonnac  a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde Galisia.

Newyddion Diweddaraf

Cystadlu yn y Genedlaethol 2017

Rydym yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ar hyn o bryd. Cystadlu ar y dydd Sadwrn olaf yn y brif gystadleuaeth i gorau meibion! Rhaglen o rhwng 9 i 12 munud yw gofynion y gystadleuaeth ac rydym eisioes wedi recriwtio llawer o aelodau newydd - amryw o aelodau'r Aelwyd a fydd yn cystadlu yn y Corau Aelwyd yn Eisteddfod yr Urdd yn sir Forgannwg cyn bo hir, rhai aelodau hollol newydd ac ambell un sydd wedi dod yn ôl atom ar ôl toriad. Byddwn yn canu rhyw dri darn - ac yn ymarfer ar nos Lun yn unig! Efallai yn nes ymlaen y

Darllenwch fwy..

*

Digwyddiadau