Cor Meibion Llangwm

Cor Meibion Llangwm

Cartref Côr Meibion Llangwm ydi pentref Llangwm, ger Corwen, Gogledd Cymru (LL21 0RA).

Ein Ymarferion

Cynhelir ein ymarferion ar nos Lun rhwng 8pm a 10pm yng Nghorlan Ddiwylliant Llangwm.

Mae Croeso Cynnes i aelodau newydd!

Croesewir aelodau newydd o bob oed i ddod i ganu efo ni.

Mae croeso hefyd i ymwelwyr daro i mewn i wrando.

Ein Cyfarwyddwr Cerdd

Ein cyfarwyddwr cerdd yw Bethan Smallwood B.Mus.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gysylltu â ni, ewch i'r dudalen gyswllt Cysylltwch â Cor Meibion Llangwm

Diolch

(Llun trwy garedigrwydd Lluniau Llwyfan)

Ble mae cartref y côr?

Map showing Côr Meibion Llangwm location

Gyda chaniatâd caredig Lluniau Llwyfan

Newyddion Diweddaraf

Wrecsam a Cor Sangerrunde Mittich

Eisteddfod Wrecsam ac Ymweliad Sangerrunde Mittich Yn Wrecsam eleni (2011) daeth y Côr yn ail yn y gystadleuaeth i gorau rhwng 20-45 mewn nifer a rydym yn falch iawn o'r feirniadaeth galonogol a gafwyd! Gall aelodau'r Côr ei gweld ar y dudalen 'Hysbys'. I fyny bo'r nod a cheisiwn guro corau'r brifddinas y flwyddyn nesaf! Yn Wrecsam yn y flwyddyn 1977 y bu'r Côr Meibion yn cystadlu gyntaf erioed yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y darn prawf oedd ' Cytgan y Cynllwynwyr' gan Verdi ac roedd swp

Darllenwch fwy..

*

Aelodau’n unig

Gall aelodau fynd i mewn yma ar gyfer negeseuon ayyb